07834 556202 (Gweinidog) post@caersalem.com

Tysteb Gobaith i Gymru

Tysteb Gobaith i Gymru
Cyfle i ddiolch am wasanaeth Arfon Jones a Gwenda Jenkins

Eleni bydd gwaith yr elusen Gobaith i Gymru yn dirwyn i ben ar ôl ugain mlynedd o weinidogaeth a chenhadaeth werthfawr ymhlith y Cymry Cymraeg. Prif brosiect yr elusen dros y blynyddoedd oedd paratoi a chyhoeddi cyfieithiad newydd Cymraeg o’r Beibl sef beibl.net.

Yn ogystal â’r Beibl ei hun mae’r elusen wedi bod yn weithgar yn paratoi llawer o adnoddau Cristnogol i unigolion, eglwysi ac ysgolion dros y blynyddoedd. O nodiadau darllen Beiblaidd, i wasanaethau ysgolion, ffilmiau a llawer o bethau eraill.

Wrth i waith yr elusen ddirwyn i ben mae nifer o eglwysi ac unigolion wedi gofyn am y cyfle i gyfrannu tuag at dysteb i ddiolch am waith Arfon Jones, Swyddog Maes Gobaith i Gymru a Gwenda Jenkins, Swyddog Adnoddau Gobaith i Gymru.

Penderfynodd Pwyllgor Gwaith Gobaith i Gymru y byddai’n well i gorff gwahanol fod yng ngofal casglu’r dysteb ac felly mae Eglwys Caersalem, Caernarfon wedi cynnig casglu ac ysgwyddo’r gwaith o weinyddu’r dysteb.

Cyfrannu ar-lein

Gellir cyfrannu ar-lein drwy glicio yma: https://www.give.net/tystebgig

Cyfrannu drwy siec

neu anfon sieciau yn daladwy i ‘Eglwys Caersalem Caernarfon’ gan nodi ‘Tysteb Gig’ ar gefn y siec neu ar lythyr cysylltiedig i:

Arwel Jones,
Eithinog Uchaf,
Penygroes,
LL54 6PD.

Os hoffech dderbynneb i gadarnhau fod y rhodd wedi cyrraedd yn ddiogel, rhowch wybod mewn llythyr wrth anfon y siec.

Derbynnir cyfraniadau tuag at y dysteb gan unigolion, eglwysi a chyrff eglwysig sydd wedi gwerthfawrogi gweinidogaeth a gwasanaeth Arfon a Gwenda drwy Gobaith i Gymru dros y blynyddoedd. Byddwn yn rhoi gwybod i Arfon a Gwenda enwau’r unigolion, eglwysi a mudiadau sydd wedi cyfrannu at y dysteb ond ni fydd swm cyfraniad neb yn cael ei rannu.

Caiff y dysteb ei rhannu rhwng Arfon a Gwenda mewn ffordd fydd yn adlewyrchu nifer blynyddoedd eu gwasanaeth i’r gwaith.

Derbynir cyfraniatad tuag at y dysteb tan 31 Rhagfyr 2019.

Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth.

Yn gywir,
Parch. Rhys Llwyd
Ar ran Eglwys Caersalem, Caernarfon

Parch. Aron Treharne
Ar ran Pwyllgor Gobaith i Gymru