Tearfund
Yn ystod mis Mawrth 2021 mae Ieuenctid yr Eglwys yn cymryd rhan yn Sialens 24 Tearfund.
Byddant yn cyflawni nifer o sialensau gwahanol yn seiliedig ar y rhif 24 i godi arian at Tearfund.
Bydd rhai o’r sialensau yn cynnwys rhedeg, seiclo, canu, dawnsio a choginio… felly rhywbeth ar gyfer pawb!
Maent wedi penderfynnu selio’r sialensau ar y rhif 24 oherwydd bod mwy na 24 miliwn o bobl yn Yemen wirioneddol angen adnoddau brys (Dŵr glan, bwyd, a glanweithdra).
Da ni isho gwahodd chi i fod yn rhan o’r gwaith anhygoel yma hefyd drwy gyfrannu unrhywbeth ‘da chi’n gallu at ein sialensau.
Bydd eich cyfranniadau chi yn mynd yn syth at waith Tearfund yn Yemen ac o amgylch y byd i daclo anghyfiawnder cymdeithasol a thlodi. Cool de? Diolch o flaen llaw!