Ymunwch â ni am 2pm ar bnawn Dydd Sul 4 Gorffennaf 2021 mewn digwyddiad awyr agored arbennig o’r enw ‘Tanio’r Haf’ ar safle Glan Morfa, Caernarfon.

Bydd yna weithgareddau, amser stori a chyfle i ddathlu Ysbryd Duw gyda’n gilydd drwy glywed stori’r Pentecost.

Bydd yn ddigwyddiad tebyg i Llan Llanast lle byddwn yn plethu gemau, gweithgareddau, crefft a chân wrth i ni ddysgu ac addoli gyda’n gilydd.

Er mwyn ei gadw yn ddigwyddiad Covid-ddiogel bydd yna gyfyngiad ar y niferoedd ac felly mae’n bwysig fod pawb sydd eisiau dod yn cofrestru ymlaen llaw drwy lenwi’r ffurflen isod a gwneud hynny mor fuan a phosib rhag i chi gael eich siomi.

Rydym yn disgwyl ymlaen yn fawr i’ch gweld ar y diwrnod.

Susan Williams
Swyddog Plant, Ieuenctid a Theuluoedd
Caersalem Caernarfon a Chynllun EfE