Deall Maddeuant – yr allwedd i ryddid (PDF)
Mae SOZO yn weinidogaeth weddi unigryw. Y prif bwrpas ydi cyrraedd at wreiddiau pethau sy’n rhwystro cysylltiad person efo eu Tad nefol, Iesu a’r Ysbryd Glân.
Mae ‘SOZO’ yn air o’r Groeg sy’n golygu ‘wedi’i achub, wedi’i iachäu, wedi’i rhyddhau.’
Achubiaeth
‘Os wnei di gyffesu ‛â’th wefusau‛, “Iesu ydy’r Arglwydd”, a chredu ‛yn dy galon‛ fod Duw wedi’i godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw, cei dy achub (sozo).’ Rhufeiniaid 10:9
Iachâd
‘Trodd Iesu a’i gweld, ac meddai wrthi, “Cod dy galon, wraig annwyl. Am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu (sozo).” A’r eiliad honno cafodd y wraig ei hiacháu. (sozo)’ Mathew 9:22
Gwaredigaeth
‘Dwedodd y llygad-dystion eto sut roedd y dyn yng ngafael cythreuliaid wedi cael ei iacháu (sozo).’ Luc 8:36
Mae Sozo yn weinidogaeth weddi, iachâd a gwaredigaeth effeithiol
Mae Sozo yn syml, yn gyflym, wedi ei arwain gan yr Ysbryd Glân ac yn effeithiol
Mae Sozo yn adnabod materion mewn munudau yn lle blynyddoedd
Mae Sozo yn eich hargfogi ar gyfer materion bywyd
Mae Sozo yn helpu i ddyfnhau eich perthynas efo Duw a’ch galluogi i gyflawni eich tynged
Apwyntiadau. Gallith apwyntiad am weinidogaeth Bethel Sozo gael ei wneud trwy gwblhau’r ffurflen gais yma neu trwy ofyn am ffurflen gan ein gweinyddwr ar sozo@caersalem.com. Pan dderbyniwn eich cais mi wnawn ni anfon gwybodaeth pellach a cysylltu efo chi i drefnu apwyntiad. Nid oes tâl am sesiwn ond fe awgrymir i chi wneud rhodd a dyliech ddod a hwn i’ch apwyntiad. Hefyd fe ddyliech ddarllen taflen ynglyn a maddeuant trwy glicio ar y linc maddeuant ar dod y dudalen hon.
Ydy hwn i mi? Ydach chi yn cael trafferth yn eich taith gyda Duw, trafferth i glywed, gweld a’i synhwyro Ef? Ydych chi’n teimlo fod rhyw fath o wâl yn rhwystro torri trwodd? Ydych chi’n cael trafferth efo perthnasau eraill yn eich bywyd a ddim yn gwybod pam (neu, hyd yn oed os ydych, yn methu gwneud unrhyw beth am y sefyllfa)? Ydych chi wedi treulio amser ac egni yn trio dygymod â’r materion yma yn eich bywyd on heb lwyddiant?
Cysylltwch a ni am fwy o wybodaeth:
Ffôn: 07967451147
Ebost: sozo@caersalem.com