
Mae Sêr Bach yn sesiwn i blant a babanod a’u rhieni, gofalwyr neu neiniau a theidiau. Bydd croeso cynnes, digon o deganau a choffi da i’r oedolion.
Mae’n digwydd ar foreau Mercher rhwng 9.30am ac 11am.
Ar ôl y cyfnod clo rydym yn ail lansio gyda thîm newydd a hefyd a system o brynu tocyn ymlaen llaw er mwyn rheoli niferoedd er mwyn creu gofod saff i bawb.
Bydd angen prynu 1 tocyn am bob oedolyn fydd yn dod. Nid oes angen tocyn ar y plant ac nid oes cyfyngiad ar y niferoedd o blant y gall bob oedolyn ddod gyda nhw.
