07834 556202 (Gweinidog) post@caersalem.com

Pwy yw pwy?

Cyflwyno Tîm Arwain Caersalem

Tîm Arwain

Mae Caersalem yn cael ei arwain gan dîm o arweinwyr sy’n cael eu hethol gan aelodau’r Eglwys. Etholwyd y tîm presennol ym mis Mai 2017.

Mae’r tîm cyfan yn cymryd trosolwg dros holl weinidogaeth yr Eglwys ond mae gan wahanol aelodau o’r tîm feysydd penodol lle mae ganddyn nhw gyfrifoldeb.

Gweledigaeth yr eglwys yw fod pob aelod yn rhan o weinidogaeth yr eglwys, rôl y tîm arwain yw rhyddhau holl aelodau’r eglwys i wasanaethu a dilyn eu galwad.

Staff

Rhys Llwyd – Gweinidog

Rhys yw ein Gweinidog ers 2010 ac fel arfer mae’n gweithio ar ddyddiau Mawrth, Iau, Gwener a Sul. Mae hefyd yn Weinidog ar ddwy eglwys arall, Calfaria Penygores ac Ebeneser Llanllyfni ac mae hefyd wedi ei secondio i weithio i Gyhoeddiadau’r Gair ar ddyddiau Mercher. 

Hannah Smethurst – Interniaeth

Hannah Smethurst yw ein intern ar hyn o bryd ac mae hi wedi cofrestru fel myfyriwr cyswllt gyda Colegau Undeb Bedyddwyr Cymru.

Lowri Jones – Gwaith plant a Gofal Tŷ

Susanne Kelly – Gofal Tŷ

Menna Machreth – Gwaith Ieuenctid a Cenhadaeth

Martin Williams – Dysgu ac Addoli

Denis Young – Gweinidog Er Anrhydedd

Rhodri Jones – Gwaith ieuenctid a Dysgu

Robin Luff – Addoli

Mari Williams – Plant a Chenhadaeth

Arwel Jones – Dysgu ac Ysgrifennydd yr Eglwys

Rhys Llwyd – Gweinidog