07834 556202 (Gweinidog) post@caersalem.com

Penwythnos Cymodi

Yn anffodus oherwydd yr argyfwng COVID-19 bu’n rhaid i ni ohirio’r digwyddiad yma. Rydym yn gobeithio ail drefnu ar gyfer rhywbryd yn 2021.

Unfortunately because of the COVID-19 situation we’ve postponed this event. We hope to reschedule it for some time in 2021.

“Iacháu Calonnau, Trawsnewid Cenhedloedd”
9.30am 19 Mehefin hyd 5pm 21 Mehefin, 2020

Capel Caersalem, Caernarfon
gyda Dr Rhiannon Lloyd a’r tim

Bwriad y gweithdy
Bwriad y gweithdy hwn yw arfogi Cristnogion i fod yn asiantau iacháu a chymod. Yn dilyn ei ddatblygu yn gyntaf yn Rwanda wedi’r hil-laddiad, gan Dr Rhiannon Lloyd, mae nawr yn cael ei redeg gan gredinwyr lleol mewn llawer rhan o’r byd. Mae’n ceisio dwyn iachâd a chyfanrwydd i gymunedau sy’n dioddef chwerwder a rhaniadau ethnig.

Gwahoddir pobl o gefndiroedd ethnig ac eglwysig gwahanol i gyfarfod â Duw a’i gilydd ar lefel y galon. Mewn awyrgylch diogel, fe’i hanogir i brofi iachâd ac fe’i galluogir i ddatblygu persbectif ac agweddau newydd.

Fformat y gweithdy
Dros dri diwrnod defnyddir cyfuniad o

  • ddysgeidiaeth ryngweithiol
  • sesiynau grŵp
  • amseroedd gweinidogaeth a chydgyfranogi gan y cyfranwyr

Mae pob sesiwn yn adeiladu ar sesiynau blaenorol, felly mae cyfranogiad llawn yn hanfodol.

Effaith y gweithdy a'i berthnasedd i Gymru
Yn sgil mynychu’r gweithdy mae miloedd o fywydau wedi eu trawsffurfio, cymunedau wedi eu newid ac eglwysi wedi cymryd camau at fod yn asiantaethau iachâd a chymod. Mae pobol wedi profi iachâd o bob mathau o friwiau, nid yn unig y rhai ethnig,

Yma yng Nghymru, drwy drugaredd nid ydym wedi dioddef dim fel y dioddefodd Rwanda, ond rydym wedi profi rhaniadau ac anghyfiawnder ethnig ar hyd y canrifoedd, sydd wedi gadael eu hôl. Mae calonnau angen eu hiacháu yma hefyd. Byddwn yn archwilio profiadau Cymru Cymraeg, Cymru di-Gymraeg, a mewnfudwyr. Nod y gweithdy yw y bydd pawb yn gadael gan wybod eu bod yn cael eu caru a’u gwerthfawrogi, ac ag awydd i helpu i ddwyn iachâd i’n cenedl.

Dyddiadau ac amser dechrau a gorffen y gweithdy?
Bydd y gweithdy yn dechrau am 9.30am Fore Dydd Gwener 19 Mehefin ac yn rhedeg trwyddo tan tua 5pm ar Ddydd Sul 21 Mehefin. Oherwydd natur y gweithdy ni ellir picio mewn i ambell sesiwn neu dim ond dod am ddiwrnod yn unig – rhaid dilyn y gweithdy ar ei hyd.

Ar y Dydd Sul byddwn yn ymuno ag Oedfa fore Dydd Sul Eglwys Caersalem rhwng 10am ac 11.15am. Bydd hwn yn gyfle i nifer o bobl, gobeithio, brofi gwasanaeth Cymraeg lle y darperir cyfieithu ar y pryd er mwyn cynnwys pawb. Un o arweinwyr y gweithdy fydd yn pregethu yn yr oedfa hon.

Llety a Bwyd?
Os nad ydych chi’n byw yn lleol argymhellir i chi drefnu llety yng Nghaernarfon am dair noson – nos Iau 18 Mehefin tan nos Sadwrn 20 Mehefin – gan fod y gweithdy yn dechrau’n brydlon ar y bore dydd Gwener, 19 Mehefin. Ond os yw’n well gyda chi deithio adref fore dydd Llun yn hytrach nag nos Sul yna mae modd i chi drefnu llety am bedair noson wrth gwrs. Os ydych chi ar gyllideb dynn yna bydd yna nifer cyfyngedig o lefydd i bobl aros gyda aelodau o Gaersalem.

Mae yna nifer o lefydd i bobl aros yng Nghaernarfon ond gan ei fod yn dref boblogaidd i dwristiaid yn yr haf argymhellir eich bod yn trefnu rhywle i aros mor fuan ac y cewch wybod eich bod wedi eich derbyn i ddilyn y gweithdy. Mae rhai o aelodau Caersalem yn gyfarwyddwyr hostel boutique www.lletyarall.org sy’n cael ei redeg fel menter gydweithredol – mae’n rhesymol iawn os ydy pobl yn rhannu ystafelloedd.

Bydd pawb yn gwneud trefniadau brecwast ei hun – ond mi fydd cinio a swper ar y dydd Gwener, Sadwrn a Sul wedi ei drefnu i ni yng Nghaersalem. Bydd cost y gweithdy, fydd yn cynnwys y bwyd, yn cael ei gadarnhau yn nes at yr amser unwaith y byddwn yn gwybod y niferoedd fydd ar y gweithdy. Bydd y costau yn cael eu cadw mor isel a phosib.

Sut i wneud cais i gael dod ar y gweithdy?
Oherwydd natur y gweithdy mae’n bwysig cael balans cywir o bobl o wahanol gefndiroedd ar y gweithdy ac felly gofynir i chi wneud cais am gael dod gan rannu ychydig o’ch cefndir a pam eich bod eisiau dod ar y gweithdy ac yna byddwn ni’n cysylltu yn ôl gyda chi.

Bydd angen cofrestru eich diddordeb i fod yn rhan o’r gweithdy erbyn 20 Ebrill a byddwn wedyn yn gadael i chi wybod naill fordd neu’r llall erbyn 27 Ebrill os oes lle i chi ar y gweithdy y tro hwn.

Cliciwch YMA i lenwi’r Ffurflen Gofrestru Diddordeb

Dim ond os ydych yn cael trafferth llenwi’r ffurflen electronig gallwch ein ebostio ni i gofrestru eich diddordeb gan rannu eich holl fanylion personol (Enw Llawn, Rhyw, Cenedligrwydd, Rhif Ffôn ayb.) a’r rheswm pam eich bod am fynychu’r cwrs: cymodi@caersalem.com

Tystiolaethau o’r gweithdai Cymraeg diweddar:

‘Mae hwn wedi codi fy ngobeithion am beth all Duw ei wneud drwom ni. Yn aml rwy’n teimlo mor ddinerth’.

‘Roedd y fframwaith Feiblaidd yn help mawr i mi.’

‘Mae’n help i sylweddoli fod gan pawb boen a does na ddim enillwyr. Mae’n helpu i ddymchwel y muriau’

‘Am y tro cyntaf teimlais yn gwbl rydd i ganu yn y ddwy iaith’.

‘Fyddwn i ddim wedi colli hwn am ddim yn y byd!’

‘Mae’r gweithdy yma wedi fy helpu i wir ddeall yr efengyl am y tro cyntaf.’