Nadolig
Un o uchafbwyntiau arferol ein calendr fel Eglwys yw gweld y capel yn llawn ar gyfer ein Gwasanaeth Nadolig i’r teulu cyfan a’n Gwasanaeth Carolau blynyddol.
Eleni, gyda chyfyngiad ar y niferoedd caiff ddod i ddigwyddiadau yn y capel mae’n rhaid i ni feddwl yn greadigol.
Ein ffocws wrth ddathlu’r Nadolig eleni felly bydd digwyddiadau awyr agored o’r enw ‘Profiad y Nadolig’ ar 13 Rhagfyr a gwasanaeth carolau ar-lein ar yr 20fed o Ragfyr.
Cofrestru Profiad y Nadolig
Mae’r ymateb i Profiad y Nadolig wedi bod yn arbennig a bellach rydym wedi cyrraedd y niferoedd uchaf rydym yn gallu derbyn wrth gadw at y canllawiau COVID (uchafswm o 30 oedolyn ym mhob sesiwn).
Os ydych chi wedi cofrestru byddwch yn derbyn mwy o wybodaeth erbyn diwedd yr wythnos.
Os na wnaethoch chi gofrestru mewn pryd mae croeso i chi ein e-bostio i fod ar y rhestr wrth gefn rhag ofn fod rhai sydd wedi cofrestru yn tynnu allan: rhys@caersalem.com