Mae adeilad Caersalem wedi ei adnewyddu dros y blynyddoedd diwethaf a rhan o’n gweledigaeth wrth adnewyddu’r adeilad oedd creu gofod y gall cymdeithas Caernarfon yn ehangach wneud defnydd ohono.
Pwy all wneud cais i logi’r yr adeilad ac at be ddefnydd?
Mae’r adeilad wedi ei adnewyddu gan roddion hael aelodau Caersalem ac nid drwy ddefnyddio arian cyhoeddus nag arian loteri ac felly rydym yn dymuno gwarchod ethos Cristnogol yr adeilad tra’n ei agor allan gymaint a bo modd i ddefnydd cymunedol.
Nid oes gennym ofalwr felly nid yw’n ymarferol i ni osod yr adeilad bob awr o’r dydd a phob diwrnod o’r wythnos felly mae pob cais am ddefnydd o’r adeilad yn cael ei dderbyn a’i ystyried yn unigol. Mae’r Capel ei hun yn defnyddio’r adeilad drwy’r dydd ddydd Sul a dydd Mercher, gyda’r nos ddydd Mawrth a phrynhawn dydd Gwener, felly ni allwn dderbyn ceisiadau o gwbl am yr amseroedd hynny.
Ac ar hyn o bryd, am resymau cwbl ymarferol, ni allwn dderbyn ceisiadau i ddefnyddio’r adeilad ar gyfer partïon pen-blwydd yn anffodus, ond gall hyn newid gydag amser.
Pa ystafelloedd sydd ar gael?
Y Capel (hyd at 4 awr £35 (£20 elusennol/gwirfoddol), dros 4 awr £60 (£40 elusennol/gwirfoddol)
Neuadd fawr gyda lle i 100 yn eistedd mewn rhesi a 150 ychwanegol i fyny grisiau yn y galeri. Neu tua 50 yn eistedd o amgylch byrddau.
Y Stafell Gefn (hyd at 4 awr £20 (£10 elusennol/gwirfoddol), dros 4 awr £40 (£20 elusennol/gwirfoddol)
Ystafell fechan gyda lle i tua 10 o bobl eistedd mewn cylch neu o gwmpas bwrdd.
Y Festri (hyd at 4 awr £25 (£10 elusennol/gwirfoddol), dros 4 awr £45 (£20 elusennol/gwirfoddol)
Ystafell ganolig ei maint gyda lle i tua 30 yn eistedd mewn rhesi neu 20 yn eistedd o amgylch byrddau.
Mae mynedfa anabl i bob rhan o’r adeilad heblaw am galeri’r capel.
Mae yna dri toiled yn yr adeilad. Ar lawr y capel mae un toiled sy’n un anabl sydd hefyd a chyfleusterau newid clytiau babi. Ar lawr y festri mae’r ddau doiled arall, un ohonynt yn anabl ac un ohonynt a chyfleusterau newid clytiau babi.
Pa adnoddau sydd ar gael am ffi ychwanegol?
Cegin fach yn y Capel +£10
Mae’r gegin fach yn cynnwys zip boiler, peiriant coffi ffilter proffesiynnol, grinder coffi, oergell, sinc a dishwasher ynghyd a tua hanner cant o fygiau. Addas ar gyfer defnyddio i ddarparu te a choffi.
Cegin fwy yn y Festri +£10
Popty trydan a phedwar hob, popty ping, tegell, sinc, diogon o lestri ‘tê capel’ ar gyfer tua hanner cant o bobl. Addas ar gyfer darparu te a choffi a pharatoi bwyd.
Offer cyfieithu +£20
Offer Sennheiser di-wifr gyda 20 head-set. Bydd angen i chi ddarparu cyfieithydd eich hun a mwy na thebyg bydd angen talu’r person hwnnw.
System sain +£20
System sain broffesiynnol x2 Bose L1, desg gymysgu 16 sianel Yamaha a x2 Behringer FBQ3102 Ultragraph Pro EQ. x4 D.I. Box, x3 Sure SM58, x1 SM57 Beta, AKG Mini Wirless handheld ac over-the-ear a Fully Weighted Yamaha Stage Piano. Bydd angen i chi ddarparu peiriannydd sain eich hun a mwy na thebyg bydd angen talu’r person hwnnw.