Mae ein cynllun interniaeth yn addas i rai sy’n ystyried cyflwyno eu hunain i’r weinidogaeth ffurfiol ac eisiau profi’r alwad ond yn bennaf mae’n flwyddyn o hyfforddiant a phrofi i unrhyw un sydd eisiau arfogi eu hunain i fod yn ddisgyblion cenhadol ym mha bynnag gyd-destun lleol y bydd Duw yn eu galw iddo.
Natur yr hyfforddiant
Credwn mai yn a thrwy’r eglwys leol y mae modd darparu’r hyfforddiant gorau a mwyaf hyblyg heddiw, yn arbennig hyfforddiant ym maes gwneud disgyblion cenhadol.
Mae ein profiad dros y blynyddoedd diwethaf wedi dangos i ni fod yn rhaid i ddysgeidiaeth, gweledigaeth ac ymarferiad ddod law yn llaw wrth hyfforddi.
Mewn cyd-destun Cymraeg a Chymreig mae Caersalem yn gallu darparu’r hyfforddiant a’r profiadau yma.
Prosbectws Interniaeth Caersalem (PDF)
Sut mae gwneud cais?
Ar hyn o bryd mae Caersalem yn chwilio am un unigolyn i ymuno a ni fel intern rhwng Medi 2019 a Gorffennaf 2020.
Am fwy o wybodaeth neu i wneud cais cysylltwch gyda Rhys Llwyd: rhys@caersalem.com
Gellir darparu lwfans byw misol ac rydym yn agored i dderbyn intern sydd am ddilyn y rhaglen rhan amser tra’n gweithio swydd arall ran amser.
Dyddiad cau gwneud cais: 30 Mehefin 2019