Rydym ni’n disgwyl ymlaen i’ch croesawu i Glan Morfa ar gyfer Gŵyl Caersalem 2022. Penwythnos o ymlacio, addoli a mwynhau amser gyda’n gilydd.

8-10 Gorffennaf 2022

Mae croeso i chi wersylla ar y safle am y penwythnos, neu gysgu adref ond dod draw i ymuno yn yr holl weithgareddau a phrydau bwyd.

Os ydych chi’n dod – i wersylla neu i’r prydau bwyd – gadewch i ni wybod erbyn y 3ydd o Orffennaf fan bellach drwy gysylltu gyda Delyth:  07989 648406

Nid oes cost/ffi i ymuno yn yr ŵyl ond rydym yn derbyn rhoddion tuag at gostau yr ŵyl e.e. bwyd, deunyddiau ar gyfer y gweithgareddau ayb…

Dyma amserlen y penwythnos:

Dydd Gwener
4yh ymlaen – cyrraedd y safle a gosod eich pebyll

6yh – pryd o fwyd ‘bring and share’

8-9yh – Noson o addoliad anffurfiol o gwmpas y tân

Dydd Sadwrn
8yb – Cyfarfod Gweddi

9yb – Brecwast gyda’n gilydd

10yb – Taith gerdded hamddenol

Cinio – dim trefniadau penodol

2yp – Gweithgareddau a Gemau yn Glan Morfa

6yh – Barbeciw

8yh – Noson yng nghwmni Phil Wyman: ei stori ei ganeuon

Dydd Sul
10yb – Oedfa awyr agored yn Glan Morfa os fydd y tywydd yn ffafriol, fel arall cerdded draw i’r Capel.