07834 556202 (Gweinidog) post@caersalem.com

Grwpiau Cymuned

Rydym yn annog pawb sy'n ystyried Caersalem fel eu cartref ysbrydol i ymuno gydag un o'n grwpiau cymuned er mwyn i ni fuddsoddi yn ein perthynas gyda Duw a'n perthynas gyda'n gilydd . . .

beth sydd yn digwydd mewn grwp cymuned 

gweddi
gwreiddio
galwad
gweini

Y weledigaeth yw bod y grwpiau cymuned yn ofod lle rydym yn cynorthwyo ein gilydd i ddatblygu fel disgyblion i Iesu. Y syniad yw bod rhythm o weddi, gwreiddio yn y Gair, adnabod galwad Duw ar fywydau ein gilydd ac yna mentro i weini yn enw Crist yn rhan o hynny.

Yn ymarferol mae’n edrych fel ymuno a grŵp, un o’r tri sydd gyda ni ar hyn o bryd, ac yna cyfarfod yn ffurfiol unwaith yr wythnos (mewn person neu dros Zoom). Mewn cyfarfod bydd yn para tua 90 munud bydd cyfle i rannu sut mae ein hwythnos yn mynd, edrych ar ran o’r Beibl ac yna gweddïo gydag a dros ein gilydd.

Ond ein gweledigaeth yw bod y grwpiau cymuned yma yn fwy na dim ond cyfarfodydd ac y byddan nhw’n ein hysgogi i edrych allan, annog a gweddïo dros ein gilydd weddill yr wythnos.

Dwi ddim yn gwybod llawer am y Beibl – oes croeso i fi?

Wrth gwrs! Mae gwahanol aelodau’r grwpiau cymuned mewn gwahanol lefydd ar eu taith ysbrydol. Rydym wedi ceisio gwneud yn siŵr fod y grwpiau yn gymysg o bobl sy’n gymharol newydd i’r ffydd Gristnogol a phobl sy’n fwy aeddfed eu ffydd ac yn gallu cynghori sut i ddeall a darllen y Beibl. Fyddwn ni ddim yn gofyn cwestiynau anodd am y Beibl. Yn hytrach, byddwn yn darllen rhan fach ohono gyda’n gilydd ac yna yn gofyn pedwar cwestiwn syml iawn: i.) Beth rydych yn hoffi am y darn yma o’r Beibl? ii.) Beth nad ydych chi’n hoffi neu yn ei weld yn anodd? iii.) Beth mae’r darn yma o’r Beibl yn dweud amdanoch chi? iv.) Beth mae’r darn yma o’r Beibl yn dweud am Dduw?

Dwi ddim yn gyfforddus yn gweddïo i flaen pobl eraill – oes croeso i fi?

Oes! Os nad wyt ti wedi arfer gweddïo o flaen pobl eraill yna paid â phoeni. Mae rhai aelodau o’r grwpiau yn fwy cyfforddus nag eraill ac nid oes pwysau ar neb i weddïo, siarad ac ymateb yn yr un ffordd a phawb arall. Pa le gwell i ddysgu sut mae gweddïo nag wrth wrando ar eraill ac yna, rhywdro, mentro iddo mewn grŵp bach o bobl sydd o dy blaid.

Trefniadau ymarferol
Lle a faint o’r gloch?

Ar hyn o bryd mae’r grŵpiau yn cyfarfod gyda’r nos ar nos Fawrth. Weithiau mae’r grwpiau yn cyfarfod mewn person yn y capel ac weithiau ar Zoom. Cyn COVID roeddem yn cyfarfod yn nhai ein gilydd, byddwn yn ail ddechrau gwneud hyn pan fydd hi’n ddiogel i wneud.