Pobl gobaith mewn byd o ofn
Gweithdy diwinyddol i ystyried sut y gall Cristnogion a’r eglwys ddeall ac ymateb i’r ofn a’r chwerwder yn ein cymdeithas heddiw.
Dydd Sadwrn, 22 Tachwedd 2025 (10am-2pm)
Caersalem, Stryd Garnon, Caernarfon
I bwy?
Mae’r gweithdy diwinyddol Cymraeg hwn – fydd yn cyfuno amser o fyfyrio, astudio’r Beibl a chlywed a thrafod cyflwyniadau cyfoes – yn addas i bob Cristion sy’n barod i feddwl yn graff am y syniadau a’r tueddiadau sy’n siapio ein cymdeithas heddiw.
Byddwn yn ceisio darllen yr amseroedd ond hefyd holi lle y mae cyfle i Gristnogion a’r Eglwys blannu hadau gobaith.
Beth fydd trefn y diwrnod?
Byddwn yn darparu amserlen bendant yn nes at yr amser, ond dyma syniad i chi o sut rydym yn rhagweld y bydd y diwrnod yn rhedeg:
10am Croeso a phaned
10.30am Gweddi a chân
10.40am Sesiwn 1 – Chwyldroi ein meddwl (Rhufeiniaid 12): ffurfio meddwl Cristnogol yn oes yr algorhythmau gyda Dr. Rhys Llwyd
11.10am Sesiwn 2 – Cysondeb y ffydd: Gwersi o hanes yr Eglwys i’n picil cyfoes gyda Dr. Andras Iago
11.40am Ymateb a thrafod
12.15pm Cinio (dewch a bocs bwyd)
12.45pm Sesiwn 3 – Cyflwyniad gan Dr. Corey Hampton
1.30pm Trafodaeth a sylwadau i gloi gan Dr. Menna Machreth
1.55pm Gweddi a chân
2.00pm Gorffen
Pwy sy’n trefnu’r gweithdy a beth oedd y weledigaeth?
Gweledigaeth Rhys, Menna, Andras a Heledd yw’r gweithdy. Yn dilyn cyfnod o weld tueddiadau gwleidyddol a chymdeithasol yn mynd i gyfeiriad lle yr oedd ofn a chwerwder i weld yn llywodraethu roeddent yn teimlo arweiniad i arfogi Cristnogion i feddwl ac ymateb yn gritigol ac adeiladol i’r tueddiadau hyn. Mae’r gweithdy yn cael ei gynnal a’i noddi gan y ddwy eglwys y maent yn eu harwain: Caersalem Caernarfon a Gwreiddiau Dinbych.
Os bydd y gweithdy yn llwyddiant gobeithir trefnu mwy yn y dyfodol yn edrych ar wahanol agweddau o ddiwinyddiaeth a dyfodol yr Eglwys Gymraeg.
Pwy yw’r cyfranwyr?
Bydd y diwrnod yn cael ei arwain gan Rhys, Menna, Andras a Heledd a byddwn hefyd yn croesawu ein cyfaill Corey Hampton i arwain un sesiwn.
Yn ogystal â chael profiad degawd a mwy mewn arweinyddiaeth eglwys leol mae Rhys, Menna, Andras a Heledd wedi astudio’n academaidd i lefel doethuriaeth ym meysydd Diwinyddiaeth Gyhoeddus, Beirniadaeth Lenyddol, Diwinyddiaeth a Hanes yr Eglwys a Bioleg Foleciwlaidd.
Mae Corey ar hyn o bryd yn gorffen ei ddoethuriaeth ym maes Diwinyddiaeth Gymhwysol a newydd ei benodi fel Tiwtor mewn Diwinyddiaeth Gymreig yn Athrofa Padarn Sant.
Oes cinio a darpariaeth i’r plant?
Ni fyddwn yn darparu cinio, ond bydd yna doriad byr amser cinio felly dewch a bocs bwyd gyda chi. Darperir te a choffi.
Ni fydd darpariaeth ffurfiol i’r plant, ond byddwn wedi trefnu fod ystafell gyfagos ar gael fel gofod chwarae i blant gyda rhieni/gwarchodwyr yn cymryd cyfrifoldeb drostynt. Bydd modd clywed sain o’r cyflwyniadau yn yr ystafell chwarae.
Oes lle parcio?
Dim ond llefydd parcio i breswylwyr sydd ar y strydoedd o amgylch y capel ond mae digon o feysydd parcio cyhoeddus o fewn pellter cerdded rhesymol. Gellid talu am y parcio yn defnyddio App ar eich ffôn.
Beth fydd iaith y digwyddiad?
Gweithdy Cymraeg ei iaith wedi ei drefnu ar gyfer Cristnogion ac Eglwysi Cymraeg Gogledd Cymru fydd hwn. Mae’n bosib y gallwn ddarparu cyfieithu ar y pryd i’r Saesneg, ond bydd y drafodaeth yn dilyn pob sesiwn yn digwydd yn yr iaith Gymraeg.
Cofrestru
Mae’r digwyddiad yn cael ei drefnu gan Caersalem a Gwreiddiau ond mae’n ddigwyddiad agored i unrhywun o unrhyw Eglwys ond bydd angen cofrestru ymlaen llaw.
Cliciwch isod i gofrestru: