Mae Caersalem yn cymryd materion diogelu (safeguarding) o ddifri ac fel Eglwys sy’n perthyn i Undeb Bedyddwyr Cymru rydym yn dod dan oruchwyliaeth y Panel Diogelu Cydenwadol sy’n gweinyddu ein gwiridau DBS, yn darparu hyfforddiant ac yn annog arferion da.
Yr aelod o’n Tîm Arwain sy’n arwain gydag materion diogelu yw: Robin Luff. Gellid cysylltu gyda Robin Luff a’r Tîm Arwain ar: timarwain@caersalem.com
Os yw eich consyrn yn ymwneud ag aelod o Dîm Arwain Caersalem mae croeso i chi gysylltu’n uniongyrchol gyda Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Bedyddwyr Cymru, Judith Morris ar: judith@ubc.cymru neu swyddogion y Panel Diogelu Cydenwadol ar: post@panel.cymru
Os yw eich consyrn yn fater brys lle y mae rhywun mewn perygl cysylltwch ar unwaith gyda’r Heddlu.
Mae manylion pellach am y gwasanaethau diogelu sydd ar gael wedi eu nodi isod.


