Blwyddyn o Dwf a Gwasanaeth
Ymunwch â Chynllun Hyfforddiant Disgyblion Cenhadol 2026/2027
Cyfle unigryw i ddatblygu eich ffydd a’ch doniau mewn amgylchedd cefnogol a bywiog gyda Undeb Bedyddwyr Cymru a Caersalem Caernarfon.
Teimlo galwad i wasanaethu Duw yng Nghymru?
Dyma gyfle arbennig i dreulio blwyddyn yn tyfu yn eich ffydd, datblygu eich doniau, a phrofi galwad mewn cyd-destun gweinidogaeth fywiog a chefnogol.
Mae Caersalem Caernarfon, mewn partneriaeth ag Undeb Bedyddwyr Cymru, yn cynnig cynllun Hyfforddiant Disgyblion Cenhadol o fis Medi 2026 hyd Gorffennaf 2027.
Beth fyddwch chi’n ei wneud?
Ymunwch â ni i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weinidogaethau sy’n cynnig cyfleoedd i dyfu a gwasanaethu.
Gwaith Plant ac Ieuenctid
Cyfrannu at raglen sy’n cefnogi datblygiad ysbrydol plant ac ieuenctid yn ein cymuned.
Addoli, Dysgu ac Arwain
Datblygu sgiliau arwain mewn addoliad a dysgu yn yr eglwys.
Gweinidogaethau Ymarferol
Cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol fel Banc Bwyd, gan gynnig cymorth ymarferol i’r rhai mewn angen.
Gwaith Bugeiliol
Dysgu cyd-gerdded mewn ffydd gyda phobl sy’n wynebu heriau a chynorthwyo pobl i adnabod eu galwad a thyfu mewn ffydd.
Arbrofi ac Arloesi
Bydd cyfle i lunio a teilwra rhaglen waith fydd yn addas i ddoniau’r ymgeisydd.
Ymuno a thîm cefnogol
Byddwch yn profi galwad ochr yn ochr â thîm profiadol sy’n cynnwys y gweinidogion Rhys Llwyd a Hannah Smethurst, ynghyd â Thîm Cenhadaeth UBC a Thîm Arwain cefnogol ac aelodau cyfeillgar Caersalem. Bydd cyfle hefyd i gyd-weithio gyda Trey ac Amelia McCain fel rhan o’r egin eglwys ym Mhenygroes, Y Berllan.

Rhys Llwyd
Gweinidog

Hannah Smethurst
Gweinidog Cyswllt

Carwyn Graves
Swyddog Cenhadaeth Undeb Bedyddwyr Cymru

Simeon Baker
(Darpar) Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Bedyddwyr Cymru

Trey ac Amelia McCain
Arweinwyr Y Berllan, Penygroes
Cyfleoedd Ychwanegol
Cydweithio â Y Berllan
Cyfle i gydweithio gyda phrosiect plannu eglwys Y Berllan, Penygroes, gan ehangu eich profiad mewn cyd-destun newydd.
Cyrsiau Hyfforddi
Cyfle i ddilyn cyrsiau hyfforddi fel Llwybrau Coleg y Bedyddwyr, Bangor/Caerdydd, i ddatblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth.
Mwy o wybodaeth: https://www.cbc.cymru/cy/pathways
Lleoliadau Tymor Byr
Profiad mewn eglwysi eraill yng Nghymru drwy leoliadau tymor byr, gan ehangu eich gorwelion gweinidogaethol. Hefyd gwasanaethu mewn digwyddiadau fel Estyn, Coleg y Bala a Llanw.
Gofynion Ymgeiswyr
Pwy sy’n addas?
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy’n Gristnogion o argyhoeddiad, sydd â’r gallu i siarad Cymraeg, ac sy’n awyddus i ddysgu, tyfu, a gwasanaethu. Mae angen i’r ymgeiswyr lwyddiannus gwblhau datgeliad DBS. Mae’r rhaglen hon yn addas i’r rhai sy’n chwilio am gyfle i ddatblygu eu doniau mewn amgylchedd cefnogol a bywiog.
Sut i wneud cais?
Dyddiad cau: 19 Mehefin 2026
I gael ffurflen gais a’i gyflwyno: carwyn@ubc.cymru
I gael sgwrs anffurfiol: rhys@caersalem.com, hannah@caersalem.com neu carwyn@ubc.cymru
Treuliau a chostau llawn yn cael eu darparu.
