07834 556202 (Gweinidog) post@caersalem.com

Dydd Sul

Er bod mwy i fywyd eglwys na chyfarfod Dydd Sul yn unig mae ein cyd-addoli yn bwysig iawn i ni. Dyma pryd rydym fel teulu'r eglwys yn dod at ein gilydd i addoli, i weddïo, i ddysgu o'r Gair ac i gymdeithasu. Mae ein cyfarfodydd Dydd Sul yn agored i bawb . . .
10yb Capel Caersalem, Stryd Garnon, Caernarfon

beth sydd yn digwydd dydd sul 

“…adnabod, addoli
a dilyn Iesu
a’i gyflwyno i eraill”

Fel arfer ar ddydd Sul bydd yna groeso cynnes a bydd rhywun yn dangos i chi lle gallwch eistedd. Wedyn bydd un o’r arweinwyr mawl yn arwain rhan gyntaf y gwasanaeth fydd yn cynnwys emynau hen a newydd a gweddïau. Yna bydd toriad bach i wneud y casgliad a chyhoeddiadau ac yna bydd yna sgwrs tua 20 munud yn seiliedig ar y Beibl ond yn berthnasol i heddiw. I orffen byddwn ni fel arfer yn canu un emyn arall.

Sut fedra i gofrestru i gael dod i’r capel?

Nid oes angen cofrestru i ddod i’r capel bellach, mae’n gapel ddigon mawr i roi gofod diogel i bawb sydd eisiau dod.

Oes croeso i’r plant?

Oes! Fel arfer mae plant a theuluoedd yn ymuno mewn yn rhan gyntaf y gwasanaeth ac yna yn ystod y sgwrs i’r oedolion mae yna weithgaredd gwahanol yn cael ei drefnu i’r plant. Mae ystafell creche ar gael i rieni a’r plant lleiaf.

Facebook Live a YouTube 

Ydych chi’n gwe ddarlledu?

Ydym! O ganlyniad i COVID rydym wedi cychwyn gwe ddarlledu ein gwasanaethau dydd Sul ac rydym am barhau i wneud hyn ar ôl y Pandemig. Rydym yn ymdrech i beidio gwneud y profiad o wylio o adre yn un is-raddol i’r profiad o fod yn y capel. 

Mae modd gwylio’r gwe-ddarllediad ar ein tudalen Facebook a’n tudalen YouTube bob dydd Sul am 10yb.