Cenhadaeth Cameron yn Pécs, Hwngari 2021/22
Helo pawb,
Ar ôl i mi deimlo galwad Duw, dw i wedi derbyn y cynnig i fynd a helpu efo prosiect “Mission Pécs,” eglwys sy’n cael ei phlannu yn y ddinas Pécs, Hwngari. Bydda i’n cydweithio efo’r teulu Bainbridge, sy’n cael ei anfon fel cenhadon gan One Church Dover, mewn partneriaid efo’r Eglwys Apostolig yn Pécs, sy’n cael ei chefnogi gan ActionOverseas. Plîs helpwch fi i fod y myfyriwr cyntaf ar “placement” efo “Mission Pécs.” Efo’ch cyfraniad bydda i’n gallu cyfrannu at y waith bod Duw wedi paratoi yn Pécs Hwngari.
Ers y tair blwyddyn ddiwethaf dw i wedi bod yn rhan o Eglwys newydd gael ei phlannu yn y ddinas Lerpwl. Yn yr ail flwyddyn y brifysgol, nes i ddod o draws yr Eglwys ifanc, RopeChapel, yn yr Ropewalks yn Lerpwl. Ar y pryd, pan doeddwn i ddim wedi settlo mewn capel arall eto, roedd RopeChapel yn Eglwys lle roeddwn i’n teimlo roedd Duw isio i mi fod, oherwydd roedd y capel yn newydd ac ifanc. Roeddwn i’n teimlo roedd angen i mi fod yno i helpu denu pobol i mewn ac yn trio helpu pobl i deimlo presenoldeb Duw ynddyn nhw eu hunain. Roedd y capel newydd ‘ma yn berffaith i mi oherwydd roeddwn i’n teimlo angen cymorth ar y capel ar y pryd. Roedd ‘na mond 5 neu 6 person mewn yr ystafell fyw lle roedd y capel yn cael ei phlannu, ar y pryd. Roeddwn i’n gweld roedd mor bwysig i fi rhannu fy ffydd efo pobl arall a gweld y capel tyfu. Felly neshi fynd ati i ddefnyddio‘r rhodion bod Duw wedi rhoi i mi a gobeithio oedd pobol am roi go i ffydd os oedden nhw isio. Ers hynny, dw i wedi gweld yr Eglwys yn tyfu ac yn llwyddo, a dw i wedi joio gweld hyn.
Ers hynny i gyd, dw i wedi cael y cynnig i wasanaethu yn y ddinas Pécs am 6 mis wrth fynd ar siwrnai debyg. Mae’n “exciting!” Doeddwn i ddim yn barod i dderbyn yr alwad ‘ma ar y dechrau, ond trwy rhai profiadau eraill, mae Duw wedi dangos i mi Ei ewyllys ar gyfer y cyfnod nesaf.
Mae’n amser “exciting” i fynd nôl i weinidogaeth mewn capel bach fel nes i yn fy ail flwyddyn brifysgol efo RopeChapel, a gobeithio trwy gras Duw bydd yn bosib gweld dyfiant eto yn y capel newydd fy bydd yn cael ei phlannu yn Pécs. Mae’n amser “exciting” hefyd wrth ddefnyddio y pethau nes i ddysgu y tro gyntaf ond hefyd i ddysgu pethau newydd efo’r heriau newydd mewn amgylchedd, gwlad, iaith a diwylliant newydd. Bydd hyn i gyd yn her i mi ddysgu sgiliau newydd ar un llaw, a beth dw i wedi dysgu hyd at hyn ar y llaw arall.
Diolch am treulio’ch amser i ddarllen y neges ‘ma. Plîs cadwch fi a’r teulu Bainbridge yn eich gweddïau. Dan ni’n gobeithio gweld Duw yn symyd ac yn llenwi calonnau pobl yn ddinas Pécs, yn enw Iesu Grist. Amen!
Cameron Jones
Cefnogi Cenhadaeth Cameron
Bydd eich cyfraniadau hael yn mynd tuag at gynnal Cameron tra ei fod yn rhan o’r gwaith yn Hwngari. Mae’r casgliad yn digwydd trwy dudalen Go Fund Me ac nid trwy Caersalem.

Cefnogi Cenhadaeth Cameron
Bydd eich cyfraniadau hael yn mynd tuag at gynnal Cameron tra ei fod yn rhan o’r gwaith yn Hwngari. Mae’r casgliad yn digwydd trwy dudalen Go Fund Me ac nid trwy Caersalem.