Apêl Ffenestri
Mae ffenestri ochr ddeheuol y Capel wedi bod yn wynebu gwyntoedd a stormydd y degawdau diwethaf yn ddewr! Ond bellach mae nifer ohonynt wedi eu chwythu allan a’r lleill wedi dirywio cymaint nes eu bod dim ond un storm i ffwrdd o syrthio’n ddarnau hefyd.
Mae rhaid i ni roi rhai newydd yn eu lle er mwyn diogelwch pobl yn y capel a’n cymdogion, ond hefyd er mwyn cadw’r capel rhag problemau tamprwydd mwy.
Gan fod y Capel wedi ei gofrestru gan Cadw ni allwn roi ffenestri PVC yn anffodus ac felly rydym wedi gorfod troi at gwmni arbenigol i greu a gosod rhai newydd bespoke pren sy’n ddrud iawn!
Bydd yr holl waith adfer, unwaith mewn cenhedlaeth hwn, yn costio o gwmpas £30,000. Yn anffodus mae’n waith hanfodol i ni allu parhau i ddefnyddio ein hadeilad.
Bydd unrhyw gyfraniadau tuag at yr apêl yma yn golygu llai o angen i ni dynnu o’n cronfa gweinidogaeth a chenhadaeth i dalu am hyn. Felly yn anuniongyrchol mae’r apêl yma yn parhau i gefnogi ein gweinidogaeth a’n cenhadaeth.