Beth rydym yn ei gredu?
Dyma’r frawddeg sy’n crynhoi beth sy’n bwysig i ni ar sail ein dealltwriaeth o stori fawr y Beibl: Rydym ni’n bobl sydd eisiau “adnabod, addoli a dilyn Iesu a’i gyflwyno i eraill.”
Adnabod Iesu
Dydyn ni ddim yn meddwl fod Duw yn dduw pell sy’n byw ar y cymylau, ond yn hytrach rydym ni’n credu fod Duw y Tad wedi dod atom ni yn ei fab, sef Iesu Grist. Oherwydd hynny fe allwn ni adnabod Duw. Oherwydd bod y byd yma ac yn aml ein bywydau ni mewn llanast o ganlyniad i’r hyn mae’r Beibl yn ei alw’n bechod, rydym ni angen troi at Iesu am faddeuant a iachâd, oherwydd fe sy’n dod â gobaith i bob sefyllfa, drwy ei fywyd perffaith, ei farwolaeth aberthol a’i atgyfodiad buddugoliaethus. Rydym ni eisiau helpu pobl i ddod i adnabod Iesu am y tro cyntaf, a helpu ein gilydd i adnabod Iesu’n well.
Addoli Iesu
Rydym ni’n credu fod Duw wedi ein creu ni i fyw bywydau a fydd yn ei addoli ef. Er fod canu gyda’n gilydd ar ddydd Sul yn rhan bwysig o addoli, mae llawer mwy ‘na hynny i addoli hefyd. Rydym ni’n credu fod modd gwneud popeth fel addoliad i Dduw – o ofalu am ein teulu, i weithio’n galed yn y gwaith i olchi’r llestri hyd yn oed! Mae meddwl am ein bywyd fel un cyfle mawr i addoli yn rhoi gwerth a phwrpas arbennig i fywyd pawb.
Dilyn Iesu
Mae llawer o bobl yn gwybod am Iesu, ond mae Iesu yn ein galw i’w ddilyn yn nerth ei ysbryd, Yr Ysbryd Glân. Rydym ni’n bobl sy’n credu yn Iesu, ond gyda’i help rydyn ni’n ceisio ei ddilyn hefyd fel rhan o deulu Duw, Yr Eglwys. Mae hynny’n golygu dewis treulio amser gyda Iesu, gadael i’r Ysbryd Glân ein trawsffurfio i fod yn debycach Iddo, a byw yn ôl ei esiampl. Rydym ni’n gofyn am ei help i ni garu a gwasanaethu pobl fel mae Iesu’n gyntaf wedi ein caru ni.
Ei gyflwyno i eraill
Mae gennym ni i gyd ffydd bersonol, ond all dilynwyr Iesu fyth gadw eu ffydd yn breifat. Rydym ni wrth ein boddau yn rhannu’r newyddion da am Iesu gyda phobl drwy sôn wrth bobl amdano a cheisio byw sut roedd e’n byw wrth i ni gael y fraint o roi blas i bobl o’r nefoedd newydd a’r daear newydd sydd yn dod.
Y Credo Apostolaidd
Fel rhan o’r Eglwys fyd eang mae Caersalem yn cadarnhau y Credo Apostolaidd sydd wedi uno traddodiadau gwahanol o’r Eglwys i lawr dros y canrifoedd:
Credaf yn Nuw, y Tad hollalluog,
creawdwr nef a daear.
Credaf yn Iesu Grist, ei unig Fab, ein Harglwydd,
a gaed trwy nerth yr Ysbryd Glân;
a aned o Fair Forwyn.
Dioddefodd dan Pontius Pilat;
fe’i croeshoeliwyd, bu farw ac fe’i claddwyd;
disgynnodd at y meirw.
Atgyfododd y trydydd dydd.
Esgynnodd i’r nefoedd,
ac y mae’n eistedd ar ddeheulaw’r Tad.
Daw eto i farnu’r byw a’r meirw.
Credaf yn yr Ysbryd Glân,
yr Eglwys lân gatholig,
cymundeb y saint,
maddeuant pechodau,
atgyfodiad y corff,
a’r bywyd tragwyddol.
Datganiad o Egwyddor y Bedyddwyr
Fel Aelod o Undeb y Bedyddwyr y mae Caersalem
yn ymrwymo i’r Datganiad o Egwyddor:
- Ein Harglwydd a’n Gwaredwr Iesu Grist, Duw a amlygwyd yn y cnawd, yw’r unig awdurdod llwyr a hollol mewn materion yn ymwneud â ffydd ac ymarfer, fel y’i mynegwyd yn yr Ysgrythurau Sanctaidd, ac mae gan bob Eglwys ryddid i ddehongli ac i weinyddu Ei Gyfreithiau dan arweiniad yr Ysbryd Glân.
- Bedydd Cristnogol yw’r weithred o drochi mewn dŵr y sawl sydd wedi datgan edifeirwch ger bron Duw a ffydd yn ein Harglwydd Iesu Grist a fu farw dros ein pechodau yn ôl yr Ysgrythurau, a gladdwyd ac a atgyfodwyd y trydydd dydd.
- Dyletswydd pob disgybl yw tystio’n bersonol i Efengyl Iesu Grist ac i gymryd rhan mewn efengyleiddio’r byd.