Ar hyn o bryd mae gyda ni ddau Grŵp Tŷ yn yr Eglwys.
Un ar gyfer pobl 20au/30au (ish!) sydd yn cyfarfod bob nos Lun am 7.30 (cyfarfod mewn tŷ gwahanol o gwmpas Caernarfon bob wythnos) ac un grŵp ar gyfer rhai dros eu 40 (ish!) sy’n cyfarfod yn yr Eglwys ei hun bob nos Fawrth am 7.30.
Fel rheol mae’r Grwpiau Tŷ yn astudio rhan o’r Beibl yna yn cael cyfle i rannu profiadau a gweddïo dros eu gilydd.
Ar ôl dod i Gaersalem ar y Sul gallwn argymell pa grŵp fyddai’n fwyaf addas i chi ymuno a hi.