Pwy yw pwy?
Cyflwyno Tîm Arwain CaersalemTîm Arwain
Mae Caersalem yn cael ei arwain gan dîm o arweinwyr sy’n cael eu hethol gan aelodau’r Eglwys. Etholwyd y tîm presennol ym mis Mai 2017.
Mae’r tîm cyfan yn cymryd trosolwg dros holl weinidogaeth yr Eglwys ond mae gan wahanol aelodau o’r tîm feysydd penodol lle mae ganddyn nhw gyfrifoldeb.
Gweledigaeth yr eglwys yw fod pob aelod yn rhan o weinidogaeth yr eglwys, rôl y tîm arwain yw rhyddhau holl aelodau’r eglwys i wasanaethu a dilyn eu galwad.
Staff
Rhys Llwyd – Gweinidog
Rhys yw ein Gweinidog ers 2010 ac fel arfer mae’n gweithio ar ddyddiau Mawrth, Iau, Gwener a Sul. Mae hefyd yn Weinidog ar ddwy eglwys arall, Calfaria Penygores ac Ebeneser Llanllyfni ac mae hefyd wedi ei secondio i weithio i Gyhoeddiadau’r Gair ar ddyddiau Mercher.
Susan Williams – Gweithiwr Plant, Ieuenctid a Theuluoedd
Mae Susan yn gweithio i ni ran amser ac yn rhannu ei amser gyda’r elusen Cynllun Efe sy’n gwneud gwaith Cristnogol yn ardal Llanberis. Diwrnod a hanner yr wythnos mae Susan yn gweithio i ni.
Lowri Jones – Interniaeth
Lowri Jones yw ein intern ac fel rhan o’n buddsoddiad ynddi mae hi’n ein helpu i ddatblygu gwaith ieuenctid yr eglwys ac hefyd yn ein helpu i ddatblygu’r gwaith o feithrin cymuned trwy waith Bugeiliol a’r Tîm Cyswllt a Chymuned.