Bugail Caersalem yw Rhys Llwyd, mae hefyd a gofal dros Galfaria (Penygroes) ac Ebeneser (Llanllyfni). Mae’n ddiwyd hefyd gyda gwaith beibl.net, Llanw ac yn cynhyrchu ffilmiau Torri Syched.

Mae Arwel Jones yn briod â Lowri ac mae ganddynt dri o fechgyn. Mae’n gweithio i Gyngor Gwynedd ac wedi ymgartrefu yn ardal Caernarfon, ac yng Nghaersalem, ers blynyddoedd mawr bellach. Mae Arwel yn ddiacon ac yn arwain y gwasanaethau ar y Sul yn gyson ac hefyd Adnabod Duw ar Nos Fawrth.

Mae Joan Hughes wedi bod yn un o hoelion wyth Caersalem ers degawdau bellach. Mae hi’n gymeriad sy’n codi calon ac yn enwog am eu ffydd arbennig yn Iesu. Mae Joan yn ddiacon ac hefyd hi yw ysgrifennydd yr Eglwys.