Mae Caersalem ar Stryd Garnon, stryd fechan oddi ar ben Stryd Llyn neu oddi ar Tre’r Gof sy’n dod o’r Maes. Os yn dod mewn car dewch at y Capel o gyfeiriad y Maes oherwydd y system un ffordd. Ar ddydd Sul mae llefydd parcio fel arfer ar Stryd Garnon neu Tre’r Gof ond mae’r Maes Parcio agosaf wedi ei nodi ar y map.
Ar hyn o bryd mae’r Capel ei hun yn cael ei atgyweirio a’i adnewyddu felly rydym ni’n cyfarfod yn y Festri sydd o dan y Capel. Mae’r mynedfa i’r Festri i lawr y llwybr wrth ochr y Capel.
